minus bangor1 bangor2 bangor3 bangor4 bangor5 bangor6 bangor7 bangor8 bangor9 bangor10 bangor11 bangor12 bangor13 bangor14 bangor15 bangor16 bangor17 bangor18 bangor19 bangor20 bangor21 bangor22 bangor23 bangor24 bangor25 bangor26 bangor27 bangor28 bangor29 bangor30 bangor31 bangor32 bangor33 bangor34 bangor35 bangor36 bangor37 bangor38 bangor39 bangor40 bangor41 bangor42 bangor43 bangor44 bangor45 bangor46 chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up download email facebook instagram plus search twitter vimeo youtube external
English

Y Ddolen


12 Mai 2024

Seithfed Sul y Pasg


Gweddi gasgl

O Dduw, Brenin y gogoniant,
dyrchefaist dy unig Fab Iesu Grist
â buddugoliaeth fawr i’th deyrnas yn y nefoedd:
erfyniwn arnat beidio â’n gadael yn ddigysur,
ond anfon dy Ysbryd Glân i’n nerthu ni a’n dyrchafu i’r fan lle’r aeth ein Hiachawdwr Crist o’n blaen,
yr hwn sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.


Croeso... Esgob Enlli

Ddydd Sadwrn byddwn yn enw Iesu Grist yn cysegru Esgob newydd. Bydd ein Canon David Morris yn cymryd y teitl Esgob Enlli gan wasanaethu pobl Dduw yn bennaf yn esgobaeth Bangor. Gwn y byddwn i gyd yn dymuno pob bendith i David yn y gwasanaeth arbennig hwn yng Nghadeirlan Deiniol Sant. Bydd yn achlysur pwysig a hapus.

Ymhlith y llu o dasgau y gelwir Esgob iddynt, nid oes unrhyw  un yn bwysicach na bugeilio neu ofalu. Efallai fod y delweddau yn llai cyfoes heddiw ond mae'r angen yn fwy nag erioed i'r byd wybod bod yna Dduw sy'n gofalu. Un o wendidau mawr ein dydd ni heddiw  yw amlder unigedd. Mae unigrwydd yn realiti i ormod ar draws Cymru. Pan fyddwn ni'n gofalu am eraill, rydyn ni'n dangos gwerth ac urddas pobl ac yn rhoi ar waith  un o adnodau mwyaf adnabyddus y Beibl: ' Roedd Duw yn caru'r byd gymaint...' (Ioan 3:16).

A gaf i ofyn ichi ddal David yn eich gweddïau a'i gefnogi yn ei weinidogaeth newydd. Rydym wrth ein bodd ei fod wedi ymateb i alwad Duw ac yn gweddïo bendith gyfoethocaf Crist ar ei fywyd a'i weinidogaeth.

+Andrew Cambrensis

Gwyliwch y gwasanaeth Cysegru ar YouTube.


Cerddoriaeth newydd ar gyfer y cysegru

Mae Simon Ogdon, ein Cyfarwyddwr Eiddo, wedi cyfansoddi cerddoriaeth newydd ar gyfer seremoni'r cysegru dydd Sadwrn. Gwyliwch y fideo ar Facebook i ddarganfod mwy.


Haleliwia, Crist gyfododd ac esgynnodd!

Fel fi, bydd llawer ohonoch hefyd yn paratoi i ddathlu digwyddiad mawr y penwythnos hwn!  Mae hi wrth gwrs yn benwythnos  rownd derfynol yr Eurovision!! Yn debyg iawn i 'marmite', mae'r Eurovision yn rhywbeth sy'n tueddu i rannu'r farn boblogaidd, rydych naill ai wrth eich bodd, neu'n ei gasáu - ychydig iawn sy'n cael eu hunain ar y ffens neu rhwng dwy stôl gyda'r  Eurovision!

Yn yr wythnos sydd i ddod, doed a ddêl, rydym i gyd yn cael ein hunain rhwng dau le yn ein calendr litwrgaidd, mae Iesu wedi esgyn i'r nefoedd ac rydym yn aros i gyflawni ei addewid y byddai eiriolwr, yr Ysbryd Glân, yn dod. Mae esgyniad yr Arglwydd a dyfodiad yr Ysbryd Glân yn arddangos dechreuad presenoldeb Iesu gyda ni am byth yn ei gorff a thrwy ei gorff, yr Eglwys, ac yn enwedig mewn gair a sacrament. Mae'n rhaid bod y lle hwn, yn y canol, wedi bod yn amser digon annifyr i'r disgyblion cyntaf ,na allent wneud dim ond gweddïo ac aros gyda hiraeth a disgwyliad eiddgar am ddiwrnod y Pentecost. Wedi'i rymuso gan yr Ysbryd Glân, tyfodd yr eglwys apostolaidd gyntefig mewn cryfder cenhadol, gan gynyddu momentwm gyda phob unigolyn ac aelwyd a ddaeth i gredu.

Efallai, wrth i ni ddisgwyl am Wyl y Pentecost y gallwn weddïo am adnewyddu'r arddeliad a'r hyder yn ein cymunedau Cristnogol ac yn ein ffydd ein hunain. Rydym yn canfod ein hunain heddiw mewn sefyllfa nad yw'n rhy annhebyg i'r oes apostolaidd yn y Wlad Sanctaidd neu oes ein seintiau Celtaidd ni, lle rydyn ni bron yn dechrau o'r dechrau eto wrth gyfleu newyddion da Iesu Grist i'r gymdeithas ehangach.

Felly, mae'r dasg a ymddiriedwyd i ni yn heriol ac yn frawychus, ond nid ydym yn ei gwneud ar ein pennau ein hunain, nac yn ein nerth ein hunain; Rydym yn cael ein cyfarparu a'n grymuso gyda rhoddion dwyfol a gras i ymateb i'r her, a gallwn ganfod anogaeth yn yr esiampl osododd y seintiau.

Yn annwyl ac ymroddedig yng Nghrist,

David


Her 70k yr Archesgob ar gyfer Cymorth Cristnogol

Mae Archesgob Cymru, Andrew John, yn mynd y filltir nesaf a hynny i helpu cymunedau bregus ledled y byd ar gyfer Wythnos Cymorth Cristnogol 2024.

Mae'n cymryd rhan yn ‘70k in May’ - her i gwblhau 70 cilometr ym mha bynnag ffordd rydych chi'n ei hoffi, mewn undod ac empathi â miliynau o bobl sy'n gorfod cerdded pellteroedd maith i gael dŵr glân neu werthu eu cynnyrch.


Buddsoddi £130,000 i weddnewid tir eglwys sydd wedi’i esgeuluso yn ardd gymunedol fywiog

Mae pentref Dolgarrog yng ngogledd Cymru wedi cael dros £130.000 o gyllid Ffyniant Bro i weddnewid tir eglwys sydd wedi’i esgeuluso yn ardd gymunedol a man ar gyfer digwyddiadau mewn ymgais i adfywio bywyd cymunedol.

Rhan ganolog o’r cyllid yw adfywio tir o amgylch Eglwys y Santes Fair. Bydd yr ardd newydd yn dod yn fan deinamig ar gyfer cynulliadau lleol, digwyddiadau diwylliannol a chyfleoedd dysgu gydol oes. Bydd y prosiect hefyd yn cyflwyno calendr amrywiol o ddigwyddiadau, gan gynnwys perfformiadau, arddangosfeydd a gweithdai, sydd wedi’u cynllunio i ddarparu ar gyfer diddordebau amrywiol y gymuned yn ogystal â hyrwyddo diwylliant lleol a’r Gymraeg.


Dyddiadur

11 Mai

Ordeinio David Morris yn Esgob
2pm, Cadeirlan Deiniol Sant

6 Mehefin
Grŵp Cadfan Mehefin 2024.
Gwesty'r Celtic, Caernarfon.
Cofrestru.

13-16 Mehefin
Gŵyl RS Thomas & ME Elridge

Cofrestru.

29 Mehefin
11am, Gwasanaeth Ordeinio
Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor

2 Medi
Pererindod Walsingham 2024
Mwy o wybodaeth ar y wefan.



Dilynwch ni

FacebookX/TwitterInstagram


Rhannu Gwybodaeth

Os hoffech rannu hysbys, newydd am ddigwyddiadau neu adnoddau yma, cysylltwch â Matt Batten erbyn diwedd y ddydd Mercher cyn iddi gael ei gyhoeddi.


Cymraeg

Y Ddolen


12 May 2024

Seventh Sunday of Easter


Collect

O God the King of glory,
you have exalted your only Son Jesus Christ
with great triumph to your kingdom in heaven:
we beseech you, leave us not comfortless,
but send your Holy Spirit to strengthen us
and exalt us to the place where our Saviour Christ is gone before,
who is alive and reigns with you and the Holy Spirit,
one God, now and for ever.


Welcome... Bishop of Bardsey

On Saturday we shall consecrate a new Bishop in the name of Jesus Christ. Our own Canon David Morris will assume the title of Bishop of Bardsey serving God’s people primarily in the diocese of Bangor. I know we will all wish David every blessing for this special service in St Deiniol's Cathedral. It will be a significant and joyful occasion.

Among the many tasks to which a Bishop is called, few are as important as that of shepherding or caring. We may find the imagery less contemporary today but the need for our world to know there is a God who cares is greater than ever. One of the great ills of our day is the prevalence of isolation. Loneliness is a reality for too many across Wales. When we care for others we show the worth and dignity of people and model that most loved of Bible verses: ‘ God so loved the world...’ (John 3:16)

May I ask you to hold David in your prayers and to support him in this new ministry. We are delighted he has responded to God’s call and pray Christ’s richest blessing on his life and ministry.

+Andrew Cambrensis

The consecration will be livestreamed on the Cathedral YouTube Channel


New music for the consecration

Simon Ogdon, Director of Property, has composed new music for Saturday's consecration. Watch the video on Facebook to find out more.


Alleluia, Christ is risen and ascended!

Like me, many of you will be preparing to celebrate a big event this weekend! That’s right, it’s the Eurovision final! Much like marmite, Eurovision is something that tends to polarise popular opinion, you either love it or hate it - very few find themselves on the fence or in an in-between place with Eurovision!

This coming week, whether we like it or not we all find ourselves in an in-between place in our liturgical calender, Jesus has ascended to the heavens and we await the fulfilment of his promise that an advocate, the Holy Spirit, would come. The ascension of the Lord and the descent of the Holy Spirit herald the beginning of Jesus’ presence with us eternally in and through his body, the Church, and most especially in word and sacrament. This in-between place must have been an unsettling time for the first disciples who could do nothing but pray and wait with eager longing and expectation for the day of Pentecost. Empowered by the Holy Spirit the primitive apostolic church grew in missionary zeal and strength, gaining traction with every individual and household who came to believe.

Perhaps, as we await the Feast of Pentecost we might pray for a renewal of zeal and confidence in our Christian communities and in our own faith. We find ourselves today in a position not too dissimilar to that of the apostolic age in the Holy Land or the age of the Celtic saints in these islands, where we are almost starting from scratch communicating the good news of Jesus Christ to wider society. 

Therefore, the task entrusted to us is challenging and daunting, but we do not do it alone or in our own strength; we are equipped and empowered with divine gifts and grace to rise to the challenge, and we can find encouragement in the example of the saints.

Devotedly yours in Christ,

David


Archbishop takes on 70K for Christian Aid

The Archbishop of Wales, Andrew John, is going the extra mile for vulnerable communities around the world during Christian Aid Week 2024.

He is taking part in 70k in May – a challenge to cover 70 kilometres in whatever way you like, in solidarity with millions of people who have to walk long distances for clean water or to sell their produce.


£130,000 investment to transform neglected church land into a vibrant community space

The North Wales village of Dolgarrog has received over £130.000 Levelling Up funding to transform neglected church land into a community garden and events space in a bid to revitalise community life.

A central part of the funding is the revitalisation of land surrounding St Mary’s church. The new garden will become a dynamic space for local gatherings, cultural events and lifelong learning opportunities. The project will also deliver a diverse calendar of events, including performances, exhibitions, and workshops, designed to cater to the varied interests of the community as well as promote local culture and the Welsh language.


Diary

11 May

The Ordination and Consecration of David Morris as Bishop.
2pm, St Deiniol's Cathedral in Bangor.

6 June

Grŵp Cadfan June 2024.
The Celtic Royal Hotel, Caernarfon.

Register online. 

13-16 June

RS Thomas & ME Eldridge Poetry & Arts Festival.
Book online

29 June

Ordination Service
11am, Saint Deiniol's Cathedral in Bangor

2 September

Walsingham Pilgrimage 2024
More information on our website.



Follow us

FacebookX/TwitterInstagram 


Sharing information

If you would like to share updates, news about events or resources here, please send details to Matt Batten by the end of day on Wednesday before you would like it published.